EIch data a’ch preifatrwydd

Ap COVID-19 y GIG - Gwarchod eich Preifatrwydd

Ap COVID-19 y GIG yw’r ffordd gyflymaf o weld os oes gennych chi risg o’r coronafeirws.

Mae ganddo nifer o nodweddion i’ch diogelu chi. Mae’n olrhain cysylltiadau, rhoi rhybuddion am eich ardal leol, ac yn sganio cod QR i gofnodi mewn i lefydd. A’r cyfan yn gwbl anhysbys.

Ond sut?

Does dim angen i’r ap wybod pwy ydych chi na lle ydych chi. Mae’n gweithio trwy gyfnewid codau ar hap gyda defnyddwyr eraill yr ap yr ydych chi’n dod i gysylltiad â nhw. Maen nhw’n dweud wrth yr ap os ydych chi wedi bod o fewn 2 fetr i ddefnyddiwr arall am fwy na chwarter awr.

Yna, os bydd rhywun yn nodi ei fod wedi cael prawf coronafeirws positif, bydd yr ap yn anfon hysbysiad di-enw at bawb allai fod mewn perygl.

Mae’r codau hyn wedi eu hamgryptio ac yn cael eu dileu ar ol un-deg-pedwar diwrnod. Nid yw’r Gwasanaeth Iechyd, y llywodraeth nac unrhyw un arall yn cael eu defnyddio i weld pwy ydych chi na ble rydych wedi bod.

Er mwyn cael rhybudd gan yr ap os bydd risg uchel yn eich ardal cod post, rhaid ichi roi rhan gyntaf eich cod post.

Ar gyfartaledd, bydd hyn yn cynnwys tua wyth mil o gartrefi. Felly bydd yn amhosibl eich adnabod chi yn bersonol.

Mae’r sganiwr cod QR yn gweithio’n anhysbys hefyd. Os cewch rybudd o achos COVID posibl, ni roddir enw’r lleoliad nac enw unrhyw un oedd yno.

Mae’r ap yn defnyddio meddalwedd Apple a Google ac mae eu harbenigwyr preifatrwydd nhw wedi adolygu’r ap yn drylwyr. Cewch ddileu eich data neu’r ap unrhyw bryd.

Dydy’r ap hwn DDIM yn gallu tracio eich lleoliad, eich monitro i weld a ydych yn hunanynysu na gweld gwybodaeth bersonol ar eich ffôn fel negeseuon neu enwau cyswllt.

Ond, os ydych yn ei lawrlwytho ac yn cadw eich Bluetooth ymlaen, mae YN gallu dweud wrthych yn gyflym os ydych mewn perygl o’r feirws.

Ac os cewch wybod yn gyflym, gallwch ddweud wrth bawb arall yn gyflym.

Ap COVID-19 y GIG yw ap swyddogol olrhain cysylltiadau Cymru a Lloegr. Mae am ddim ac yn ddiogel. Lawrlwythwch yr ap heddiw.