Pwysigrwydd yr ap

Bydd pob unigolyn sy'n lawrlwytho'r ap yn helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws (COVID-19).

Bydd yr ap yn helpu'r GIG i ddeall ble a pha mor gyflym mae'r feirws yn lledaenu, er mwyn iddo ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. Mae'r ap yn helpu'r GIG i olrhain y feirws, nid unigolion.

Data'r ap

Ni fydd yr ap yn eich olrhain chi na'ch lleoliad. Yn hytrach, mae ardal eich côd post yn helpu'r ap i ganfod ble mae'r feirws yn lledaenu.

Ardal eich côd post yw rhan gyntaf eich côd post, sy'n gyffredin i tua 8,000 o aelwydydd. Pan fyddwch yn lawrlwytho'r ap am y tro cyntaf, gofynnir i chi am ardal eich côd post.

Buddion ap olrhain cysylltiadau

Mae'r ap yn helpu i olrhain defnyddwyr yr ap sydd wedi treulio amser yn agos at ddefnyddwyr eraill yr ap, nad ydynt efallai yn eu hadnabod yn bersonol, ac sy'n profi'n bositif am y coronafeirws yn ddiweddarach.

Mae'r nodwedd "Mewngofnodi" yn cefnogi'r swyddogaeth hon drwy hysbysu defnyddwyr sydd wedi bod yn yr un lleoliad ar yr un amser heb ddefnyddio enwau.

Mae ap olrhain cysylltiadau yn lleihau'r amser mae'n cymryd i hysbysu'r rhai hynny rydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw.